Wrth rodio gyda’r Iesu
ar y daith,
mae’r ofnau yn diflannu
ar y daith;
mae gras ei dyner eiriau,
a golau’r ysgrythurau,
a hedd ei ddioddefiadau
ar y daith,
yn nefoedd i’n heneidiau
ar y daith.
Wrth rodio gyda’r Iesu
ar y daith,
ein calon sy’n cynhesu
ar y daith:
cawn wres ei gydymdeimlad,
a’n cymell gan ei gariad
a grym ei atgyfodiad
ar y daith:
O diolch byth am Geidwad
ar y daith.
BEN DAVIES, 1864-1937
(Caneuon Ffydd 357)