Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy ngharu
Union fel hyn,
Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy nerbyn
Union fel hyn,
Credwn fod ffìn yn rhywle oedd rhaid imi’i osgoi,
Ond yn lle hynny mae ‘na foroedd o gariad di-derfyn.
Cytgan:
Mor bell ag yw’r dwyrain o’r gorllewin,
Mor bell ag yw’r gogledd o’r de,
Mor bell a mae’r sêr yn ymestyn i’r gofod,
Dyna faint dy gariad.
Mor bell ag yw’r dwyrain o’r gorllewin,
Mor bell ag yw’r gogledd o’r de,
Mor bell a mae’r môr yn ymestyn i’r gorwel,
Dyna faint dy gariad.
Pen 2:
Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy neall
Union fel hyn,
Wyddwn i fyth dy fod ti’n fy ‘nabod
Union fel hyn,
Os wyt ti’n tynnu’r llaw sy’n fy ngwarchod i i ffwrdd,
Gwn i fod hynny ‘mond i’n nhynnu‘n agosach atat.
Cytgan
Coda:
Wyddwn i fyth, wyddwn i fyth
Wyddwn i fyth am faint dy gariad
Ail-adrodd
Hanner cyntaf y gytgan
©2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
PowerPoint PDF English Words MP3