Y cysur i gyd
sy’n llanw fy mryd
fod gennyf drysorau
uwch gwybod y byd;
ac er bod hwy ‘nghudd,
nas gwêl neb ond ffydd,
ceir eglur ddatguddiad
ohonynt ryw ddydd.
Hiraethu ‘rwy’n brudd
am fwyfwy o ffydd
a nerth i wrthsefyll
ac ennill y dydd;
Duw ffyddlon erioed
y cefais dy fod,
dy heddwch fel afon
yn dirion im dod.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 755)
PowerPoint