Y dydd a roddaist, Iôr, a giliodd,
ar d’alwad di ymdaena’r hwyr,
ein cynnar gân i ti ddyrchafodd,
a’th fawl a rydd in orffwys llwyr.
Diolchwn fod dy Eglwys effro
i’r ddaear ddu yn llusern dlos;
trwy’r cread maith mae hon yn gwylio
heb orffwys byth na dydd na nos.
Dros bob rhyw ynys a chyfandir,
yn gyson megis gwawr y dydd,
ei chân o fawl i ti a glywir,
ac nid oes baid ar weddi’r ffydd.
Yr haul wrth beri i ni noswylio
sy’n deffro’n brodyr gylch y rhod,
i draethu dy ogoniant eto
a datgan dy ryfeddol glod.
Dy orsedd, Arglwydd Dduw,
a bery pan syrth gorseddau byd a’u bri;
fe saif dy deyrnas, a chynyddu
nes delo pawb i’w haddef hi.
JOHN ELLERTON, 1826-93 cyf. R. D. ROBERTS, 1912-93 © geiriau Cymraeg Dafydd M. Roberts. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 45)