Y dydd a roddaist, Iôr, a giliodd, ar d’alwad di ymdaena’r hwyr, ein cynnar gân i ti ddyrchafodd, a’th fawl a rydd in orffwys llwyr. Diolchwn fod dy Eglwys effro i’r ddaear ddu yn llusern dlos; trwy’r cread maith mae hon yn gwylio heb orffwys byth na dydd na nos. Dros bob rhyw ynys a […]