Y mae arnaf fil o ofnau,
Ofnau mawrion o bob gradd,
Oll yn gwasgu gyda’i gilydd
Ar fy ysbryd, bron fy lladd;
Nid oes allu a goncweria
Dorf o elynion sydd yn un –
Concro ofn, y gelyn mwyaf,
Ond dy allu Di dy Hun.
Ofni’r wyf na ches faddeuant,
Ac na chaf faddeuant mwy;
Ofni’n fynych na ches olwg
Eto ar dy farwol glwy’;
Ofni bod fy meiau’n taro
yn erbyn iachawdwriaeth rad,
Ac na chaiff fy enaid egwan
Fyth ei olchi yn y gwaed.
Deuwch, yr awelon hyfryd,
Deuwch dros y bryniau pell,
Dan eich adain dawel rasol,
Dygwch y newyddion gwell:
Dygwch newydd at fy enaid –
F’enw innau yno a gaed,
Dedwydd enw’n argraffedig
Yn yr iachawdwriaeth rad.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 585)