Yn dy waith y mae fy mywyd,
yn dy waith y mae fy hedd,
yn dy waith yr wyf am aros
tra bwy’r ochor hyn i’r bedd;
yn dy waith ar ôl mynd adref
drwy gystuddiau rif y gwlith:
moli’r Oen fu ar Galfaria –
dyma waith na dderfydd byth.
EVAN GRIFFITHS, 1795-1873
(Caneuon Ffydd 734)
PowerPoint