logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn Eden, cofiaf hynny byth

Yn Eden, cofiaf hynny byth,
bendithion gollais rif y gwlith;
syrthiodd fy nghoron wiw.
Ond buddugoliaeth Calfarî
enillodd hon yn ôl i mi:
mi ganaf tra bwyf byw.

Ffydd, dacw’r fan, a dacw’r pren
yr hoeliwyd arno D’wysog nen
yn wirion yn fy lle;
y ddraig a ‘sigwyd gan yr Un,
cans clwyfwyd dau, concwerodd un,
a Iesu oedd efe.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 522; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 343)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015