Yn wirion, yn wallgof, yn ddwfwn x3
Dwi’n mynd i’th drystio Di
Yn wirion, yn wallgof, yn ddwfwn x3
Dwi’n mynd i’th foli Di.
Tân fel fflam o ganol nefoedd
Tyrd i losgi ynof fi,
Pura’r natur ddynol ynof
Cynna’n wenfflam ynof fi.
Tân na allaf fi reoli,
Tân lle dwi yn gadael fynd
Tyrd i ‘mywyd i deyrnasu
A dawnsiaf fi fel Dafydd gynt.
Ti nath greu ni ar dy ddelwedd
Ti nath ‘neud ni’n werthfawr iawn
O bwysigrwydd yn dy deyrnas
Ag awdurdod plentyn llawn.
Ti ‘nath greu ni i Dy drystio
Mew perthynas gyson saff,
Helpa ni i risgio popeth
Yn dy ddwylo medrus craff.
Pont
Os bydd ‘mywyd iti’n gân
Bydd fy niolch imi’n darian.
Gwna fy mywyd iti’n gân
Gwna fy niolch imi’n darian.
©Elise Gwilym
MP3 PowerPoint Cordiau