Yn y beudy ganwyd Iesu
heb un gwely ond y gwair;
Duw’r digonedd yn ddi-annedd,
gwisgo’n gwaeledd wnaeth y Gair:
heddiw erfyn in ei ddilyn
lle bo’n wrthun dlodi byd;
gyfoethogion, awn yn dlodion,
dyna’r goron orau i gyd.
Gwŷs angylion ddaeth â’r tlodion
heb ddim rhoddion ond mawrhad;
doethion hefyd ddaeth yn unfryd
gyda golud pell eu gwlad:
heddiw ninnau, rhown ein doniau
fel bo’n dyddiau’n aberth byw;
wrth dywalltiad gwaed ei gariad
ond dechreuad diolch yw.
Iesu’n alltud fu’n ei febyd
er uwch bywyd oll yn ben;
dug ei ysgwydd groes gwaradwydd
er yn Arglwydd uwch y nen:
heddiw eto daw i’n herio
i gyd-wisgo agwedd gwas;
gwagio’n balchder, brwydro’n dyner,
dyna gryfder eithaf gras.
Siôn Aled (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)
(Caneuon Ffydd 449)
PowerPoint