Am brydferthwch daear lawr,
am brydferthwch rhod y nen,
am y cariad rhad bob awr
sydd o’n cylch ac uwch ein pen,
O Dduw graslon, dygwn ni
aberth mawl i’th enw di.
Am brydferthwch oriau’r dydd,
am brydferthwch oriau’r nos,
bryn a dyffryn, blodau, gwŷdd,
haul a lloer, pob seren dlos,
O Dduw graslon, dygwn ni
aberth mawl i’th enw di.
Am hyfrydwch cariad cu
brawd a chwaer a mam a thad,
ffrindiau yma, ffrindiau fry,
am bob meddwl mwyn a gaed,
O Dduw graslon, dygwn ni
aberth mawl i’th enw di.
Am bob rhodd i ddynol-ryw
gennyt o’th drugaredd gref,
am rasusau dyn a Duw,
blodau’r byd a blagur nef,
O Dduw graslon, dygwn ni
aberth mawl i’th enw di.
F. S. PIERPOINT (For the beauty of the earth), 1835-1917 cyf. JOHN MORRIS-JONES, 1864-1929
(Caneuon Ffydd 104)
Geiriau Saesneg:
For the beauty of the earth,
For the glory of the skies,
For the love which from our birth
Over and around us lies—
Refrain:
Lord of all, to Thee we raise,
This our hymn of grateful praise.
For the wonder of each hour,
Of the day and of the night,
Hill and vale, and tree and flow’r,
Sun and moon, and stars of light—
For the joy of human love,
Brother, sister, parent, child,
Friends on earth and friends above,
For all gentle thoughts and mild—
For Thy church that evermore
Lifteth holy hands above,
Off’ring up on every shore
Her pure sacrifice of love—