Rhoes Duw Ei Fab –
Iesu oedd Hwnnw,
I’m caru ddaeth
A maddau ’mai.
Bu farw’r Oen
I brynu ’mhardwn;
Bedd cwbl wag
Sy’n berffaith dyst
I’m Prynwr byw.
Am mai byw yw Ef
Af ymlaen yfory,
Am mai byw yw Ef
Ffoi wnaiff pob braw,
Am y gwn mai Ef
Sy’n dal y dyfodol,
A gwerth ei fyw yw ’mywyd
’Mond am mai byw yw Ef.
Mor braf anwesu baban newydd
A theimlo’r wefr a’r pleser pur;
Ond can mil gwell yw’r sicrwydd tawel –
Gall hwn wynebu dyddiau cur
Am mai byw yw Ef!
Am mai byw yw Ef
Af ymlaen yfory,
Am mai byw yw Ef
Ffoi wnaiff pob braw,
Am y gwn mai Ef
Sy’n dal y dyfodol,
A gwerth ei fyw yw ’mywyd
’Mond am mai byw yw Ef.
Rhyw ddiwrnod ddaw
Fe groesa’ i’r afon –
F’ymladdfa ola’ fyth yn erbyn poen;
’Rôl angau llym
Daw buddugoliaeth,
A gwelaf wawl gogoniant
Teyrnas fythol Crist.
Am mai byw yw Ef
Af ymlaen yfory,
Am mai byw yw Ef
Ffoi wnaiff pob braw,
Am y gwn mai Ef
Sy’n dal y dyfodol,
A gwerth ei fyw yw ’mywyd
’Mond am mai byw yw Ef.
Am mai byw yw Ef
Because He lives (William J. a Gloria Gaither)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© Gaither Copyright Management (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint