Ar fôr tymhestlog teithio ‘rwyf
i fyd sydd well i fyw,
gan wenu ar ei stormydd oll:
fy Nhad sydd wrth y llyw.
Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn,
a rhwystrau o bob rhyw
y’m dygwyd eisoes ar fy nhaith:
fy Nhad sydd wrth y llyw.
Er cael fy nhaflu o don i don,
nes ofni bron cael byw,
dihangol ydwyf hyd yn hyn:
fy Nhad sydd wrth y llyw.
Ac os oes stormydd mwy yn ôl,
ynghadw gan fy Nuw,
wynebaf arnynt oll yn hy:
fy Nhad sydd wrth y llyw.
A phan fo’u hymchwydd yn cryfhau,
fy angor, sicir yw;
dof yn ddiogel drwyddynt oll:
fy Nhad sydd wrth y llyw.
I mewn i’r porthladd tawel, clyd,
o swn y storm a’i chlyw
y caf fynediad llon ryw ddydd:
fy Nhad sydd wrth y llyw.
IEUAN GLAN GEIRIONYDD, 1795-1855
(Caneuon Ffydd 167)
PowerPoint