Arglwydd, edrych ar bererin
Sy’n mynd tua’r wlad sydd well,
Ac yn ofni sŵn llifogydd
Wrth eu clywed draw o bell;
‘Dwyf ond gwan, dal fi i’r lan,
Mi orchfygaf yn y man.
Ar y tyle serth llithredig
Dal fi’n gadarn yn dy law;
N’ad im golli ‘ngolwg fymryn
Ar y bryniau hyfryd draw –
Sanctaidd wlad, tŷ fy Nhad,
Pwrcas perffaith dwyfol waed.
Rho i mi ddrachtio’r dyfroedd bywiol
Sydd yn atal llwfwrhau,
Ac yn creu ysbrydoedd cedyrn
Hyd y diwedd i barhau;
Nid oes dim o’r fath rym
Ag yw d’Ysbryd Sanctaidd im.
William Williams, Pantycelyn
Y Llawlyfr Moliant Newydd: 442
PowerPoint