Bendigedig fyddo’r Iesu,
yr hwn sydd yn ein caru,
ein galw o’r byd a’n prynu,
ac yn ei waed ein golchi,
yn eiddo iddo’i hun.
Haleliwia, Haleliwia!
Moliant iddo byth, Amen.
Haleliwia, Haleliwia!
Moliant iddo byth, Amen.
Bendigedig fyddo’r Iesu:
caiff pawb sydd ynddo’n credu,
drwy fedydd, ei gydgladdu
ag ef, a’i gydgyfodi
mewn bywyd byth yn un.
Bendigedig fyddo’r Iesu:
fe welir ei Ddyweddi
heb un brycheuyn arni
yn lân fel y goleuni
ar ddelw Mab y Dyn.
diwyg. SPINTHER, 1837-1914
(Caneuon Ffydd 388)
PowerPoint