Bendigedig fyddo’r Iesu, yr hwn sydd yn ein caru, ein galw o’r byd a’n prynu, ac yn ei waed ein golchi, yn eiddo iddo’i hun. Haleliwia, Haleliwia! Moliant iddo byth, Amen. Haleliwia, Haleliwia! Moliant iddo byth, Amen. Bendigedig fyddo’r Iesu: caiff pawb sydd ynddo’n credu, drwy fedydd, ei gydgladdu ag ef, a’i gydgyfodi mewn bywyd […]
Clywch beroriaeth swynol engyl nef yn un yn cyhoeddi’r newydd, eni Ceidwad dyn: canant odlau’r nefoedd uwch ei isel grud wrth gyflwyno Iesu, Brenin nef, i’r byd. Bore’r greadigaeth mewn brwdfrydedd byw canai sêr y bore, canai meibion Duw: bore’r ymgnawdoliad canai’r nef ynghyd, tra oedd Duw mewn cariad yn cofleidio’r byd. SPINTHER, 1837-1914 (Caneuon […]
Ti, O Dduw, foliannwn am dy ddoniau rhad, mawr yw d’ofal tyner drosom, dirion Dad; llawn yw’r ddaear eto o’th drugaredd lân, llawn yw’n calon ninnau o ddiolchgar gân. Ni sy’n trin y meysydd, ni sy’n hau yr had, tithau sy’n rhoi’r cynnydd yn dy gariad rhad; doniau dy ragluniaeth inni’n gyson ddaw; storfa’r greadigaeth […]