Dinas sydd yn disgleirio
Gyda harddwch Oen ein Duw.
Mae ‘na ffordd, cawn fynd yno,
Ein tragwyddol gartref yw.
O’th blegid di, o’th blegid di,
Fe’n ceraist yn rhad,
Fe roddaist dy waed.
Ni fydd poen, ni fydd gofid,
Ni fydd wylo, ni fydd clwy.
Derfydd drwg, derfydd dioddef,
A marwolaeth ni bydd mwy.
O’th blegid di, o’th blegid di,
Fe’n ceraist yn rhad,
Fe roddaist dy waed.
O’n pechodau down yn rhydd,
Ac fe gawn fyw’n dragywydd;
Dyma’n gobaith ni
O’th blegid di.
Cawn o’r diwedd weld dy wedd
A dawnsio ‘nghwmni’n gilydd
Yn ninas wych ein Duw,
O’th blegid di.
Bydd ‘na wefr heb ddim diwedd,
Bydd llawenydd, a bydd hedd.
Bydd y gwin yn gorlifo,
Bydd priodas, fe gawn wledd –
Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones, There’s a place (Because of you): Paul Oakley
© 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 130)
PowerPoint