Disgleiried golau’r groes
ar uchelfannau’r byd;
aed Mab y Dyn o oes i oes
yn fwy ei fri o hyd.
Gogoniant byth i’r Oen,
ar aur delynau’r nef:
ei groes sy’n gwella’r byd o’i boen –
gogoniant iddo ef!
Doed gorseddfeinciau’r byd
dan ei awdurdod bur,
a doed y bobloedd o un fryd
i’w garu am ei gur.
Gogoniant byth i’r Oen,
ar aur delynau’r nef:
ei groes sy’n gwella’r byd o’i boen –
gogoniant iddo ef!
Pob trais a gormes mwy
ddarfyddo is y ne’;
dan ddylanwadau marwol glwy’
mae’r byd i ddod i’w le.
Gogoniant byth i’r Oen,
ar aur delynau’r nef:
ei groes sy’n gwella’r byd o’i boen –
gogoniant iddo ef!
Tywynned golau’r groes
i ddyfnder tlodi dyn,
gan ddangos gobaith dod, drwy’r loes,
ar ddelw Duw ei hun.
Gogoniant byth i’r Oen,
ar aur delynau’r nef:
ei groes sy’n gwella’r byd o’i boen –
gogoniant iddo ef!
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 265)
PowerPoint