Fy ngweddi, dos i’r nef,
Yn union at fy Nuw,
A dywed wrtho Ef yn daer,
“Atolwg, Arglwydd, clyw!
Gwna’n ôl d’addewid wych
I’m dwyn i’th nefoedd wen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i’r llen.”
Pererin llesg a llaith,
Dechreuais daith oedd bell,
Trwy lu o elynion mawr eu brad
Gan geisio gwlad sydd well;
Am ffoi mae f’enaid tlawd
At f’annwyl Frawd a’m Pen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i’r llen.
Mae ‘mrodyr uwch y nen
Yn canu ar ben eu taith;
A minnau oedais lawer awr
Ar siwrnai fawr a maith;
Ond bellach tyn fi’n ddwys,
Ar Grist dod bwys fy mhen;
Yn Salem fry partô fy lle
Mewn llys o fewn i’r llen.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 20)