Gras, O’r fath beraidd sain,
i’m clust hyfrydlais yw:
gwna hwn i’r nef ddatseinio byth,
a’r ddaear oll a glyw.
Gras gynt a drefnodd ffordd
i gadw euog fyd;
llaw gras a welir ymhob rhan
o’r ddyfais hon i gyd.
Gras nododd f’enw i
Yn Llyfr Bywyd Duw;
A gras a’m rhoddodd i i’r Oen,
Fu farw im gael byw.
Gras ddaeth â’m traed yn ôl
i lwybrau’r nefoedd lân;
rhydd gymorth newydd im bob awr
i fyned yn y blaen.
Gras ddysgodd gweddi im,
A thoddi nghalon ddu,
Gras gadwodd f’enaid hyd yn hyn,
A byth ni’m gollwng i.
Gras a gorona’r gwaith
draw mewn anfarwol fyd;
a chaiff y clod a’r moliant byth
gan luoedd nef ynghyd.
PHILIP DODDRIDGE, 1702-51 cyf. GOMER, 1773-1825
(Caneuon Ffydd 161; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 03)
PowerPoint