Haleliwia! Haleliwia!
Seinier mawl i’r uchel Dduw;
ef yw Brenin y brenhinoedd,
Arglwydd yr arglwyddi yw:
pwysa eangderau’r cread
byth ar ei ewyllys gref;
ein gorffwysfa yw ei gariad:
Haleliwia! Molwn ef.
Haleliwia! Haleliwia!
Gwylio mae bob peth a wnaed;
cerdd mewn nerth drwy’r uchelderau
a’r cymylau’n llwch ei draed:
ynddo mae preswylfa’r oesau,
dechrau a diwedd popeth yw;
newydd beunydd yw ei ddoniau:
Haleliwia! Molwn Dduw.
Haleliwia! Haleliwia!
Yn ei Fab daeth atom ni;
cyfuwch â’i orseddfainc ddisglair
yw y groes ar Galfarî:
ef yw sicrwydd ei arfaethau,
ef mewn pryd a’u dwg i ben;
tragwyddoldeb sydd yn olau:
Haleliwia byth! Amen.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 89)