I’r Arglwydd cenwch lafar glod
a gwnewch ufudd-dod llawen fryd;
dowch o flaen Duw â pheraidd dôn,
drigolion daear fawr i gyd.
Gwybyddwch bawb mai’r Iôr sy Dduw
a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod,
nid ni ein hun – ei bobl ŷm ni
a defaid rhi’ ei borfa a’i nod.
O ewch i’w byrth â diolch brau,
yn ei gynteddau molwch ef,
bendithiwch enw Duw is rhod,
rhowch iddo glod drwy lafar lef.
Cans da yw’r Arglwydd, awdur hedd,
da ei drugaredd a di-lyth,
ei lân wirionedd in a roes
o oes i oes a bery byth.
EDMWND PRYS, 1544-1623
(Caneuon Ffydd 75)