Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw: ble daw im help ‘wyllysgar? Yr Arglwydd, rhydd im gymorth gref, hwn a wnaeth nef a daear. Dy droed i lithro, ef nis gad, a’th Geidwad fydd heb huno; wele dy Geidwad, Israel lân, heb hun na hepian arno. Ar dy law ddehau mae dy Dduw, yr Arglwydd yw dy Geidwad; […]
I’r Arglwydd cenwch lafar glod a gwnewch ufudd-dod llawen fryd; dowch o flaen Duw â pheraidd dôn, drigolion daear fawr i gyd. Gwybyddwch bawb mai’r Iôr sy Dduw a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod, nid ni ein hun – ei bobl ŷm ni a defaid rhi’ ei borfa a’i nod. O ewch i’w […]