logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Llonder, balchder lanwo’ch calon

Llonder, balchder lanwo’ch calon
canwch, molwch ein Duw ni!
Mawr yw’r Iôr mewn bri a chariad,
gallu, mawredd, dwyfol Ri!
R’ hwn a luniodd sêr y nefoedd –
mae’n eu ’nabod, ddisglair lu.

Molwch Dduw, Ei bobl, molwch!
enaid clwyfus, cysur ddaw;
Ei drugaredd gaiff yr egwan,
hedd am boen a hoen am fraw;
Eu dyrchafu gaiff y difalch
ymffrost dyn a syrth i’r baw.

Molwch Dduw am y tymhorau,
cwmwl, heulwen, gwynt a glaw,
gwanwyn ddaw i doddi’r gaeaf
nes i’r dyfroedd lifo draw;
glaswellt ar borfeydd y bryniau,
euraid ŷd yn drwch gerllaw.

Llonder, balchder lanwo’ch calon
hedd a digon g’rono’ch oes;
deddfau hwn a’i farnau carwch,
rhodiwch yn ei ffyrdd a’i foes;
Ef yw’r Iôr a ni ei bobl –
Molwn, bawb, Dduw mawr y Groes!

Llonder, balchder lanwo’ch calon
Fill your hearts with joy and gladness (Timothy Dudley-Smith, (g. 1926))
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© Timothy Dudley-Smith yn Ewrop ac Affrica. © Hope Publishing Company yn Unol Daleithiau America a gweddill y byd. Y cyfieithiad hwn, 2026. Atgynhyrchwyd trwy ganiatâd Gwasg Prifysgol Rhydychen. Cedwir pob hawl.

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Aled Davies,
  • June 10, 2026