Molwn di, O Dduw’r canrifoedd,
am bob crefft ac am bob dawn
a fu’n harddu temlau’r ddaear,
a fu’n rhoi hyfrydwch llawn;
arddel yma waith dy bobol,
boed pob ymdrech er dy glod,
llanw’r fangre â’th ogoniant
drwy’r holl oesau sydd yn dod.
Molwn di, O Iôr ein tadau,
am i ninnau weld y tir
lle bu tân yr hen allorau,
lle bu arddel ar y gwir;
dyro inni sêl adfywiol,
anfon y cawodydd gwlith
fel bo sŵn y gorfoleddu
eto’n atsain yn ein plith.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd:98)