O dewch, penliniwch wrth y Groes
lle t’walltodd Iesu’i waed,
ac arswydwch gymaint oedd y gost
i’ch prynu Iddo’n hael.
dewch, gwelwch ôl yr hoelion dur
a chlywch Ei ingol gri:
holl boenau’r Fall fu’n llethu’r Oen
er mwyn rhoddi Nef i chi.
O gwelwch Frenin mawr y Nef
mewn artaith drosom ni.
Wedi’i wrthod gan Ei Dduw, Ei Dad,
Ŷf yn llwyr y cwpan llid.
[Ond] Ei lawenydd nid yw’n fymryn llai
dan lif Ei ddagrau gwae:
Dioddefodd groes a dirmyg gwarth
fel bod croeso i euog rai.
O dewch i wylo dros eich bai
a’i hoeliodd ar y Groes,
Arno Ef eich melltith chi roes Duw –
Eich heddwch chi, Ei loes.
Gwelwch feichiau eich euogrwydd mawr
osodwyd ar eich Iôr:
darfu’ch pechod hyll ar ben y Bryn –
Eich melltith – nid yw’n stôr!
O clywch ru nerthol Crist y Llew –
Ei gri fuddugol rydd:
“Y dasg – Gorffennwyd! Cariad Duw!”
ac angau, distaw fydd.
Bloeddiwn ninnau: “Teilwng yw yr Oen
fu farw drosom ni,
Ei waed a’n prynodd, profi gawn
ddi-ddiwedd Nefoedd fry.”
O dewch, penliniwch wrth y Groes
O come and kneel before the Cross (Ben Lee)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
Hawlfraint © ac yn y cyfieithiad hwn, 2021 Ben Slee Music (Gwein. Song Solutions www.songsolutions.org)
CCLI #7281228
Defnyddiwyd gyda chaniatâd.
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint