O! Dyma fore, llawen a disglair,
A gobaith yn gwawrio’n Jerwsalem;
Carreg symudwyd, gwag oedd y bedd,
Wrth i angel gyhoeddi, ‘Cyfodwyd’!
Gweithredwyd gynllun Duw
Cariad yw,
Croes ein Crist
Aberth pur ei waed
Cyflawnwyd drosom ni,
Mae E’n fyw! Atgyfododd Crist o’r bedd!
Mair oedd yn wylo, ‘Ble mae fy Arglwydd?’
Mewn tristwch y trodd oddi wrth y bedd.
Clywodd ei henw, llais oedd yn galw,
Ei Meistr oedd yno, Cyfododd Ef!
Llais Duw sy’n siarad nawr
Gobaith byw, bywyd yw!
Heddwch yw ei rodd.
Fe ddaw yn ôl ryw dydd,
Mae E’n fyw!
Atgyfoddodd Crist o’r bedd!
Un gyda’r Tad, cyn dechrau amser,
Drwy’r Ysbryd sy’n rhoi ffydd a sicrwydd in.
Bendith a pharch, moliant a mawl
Rown i’n brenin sy’n gwisgo Ei goron nawr!
Cyfodir ni ag Ef,
Trechu’r bedd,
Cariad Crist sy’n fuddugol.
Teyrnaswn gydag Ef,
Mae E’n fyw!
Atgyfododd Crist o’r bedd!
See what a morning (Resurrection hymn): Keith and Kristyn Getty & Stuart Townend
Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwenda Jenkins
© ac yn y cyfieithiad hwn 2003 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd