‘Rwy’n morio tua chartref Nêr,
Rhwng tonnau maith ‘rwy’n byw,
Yn ddyn heb neges dan y sêr,
Ond ‘mofyn am ei Dduw.
Mae’r gwyntoedd yn fy nghuro’n ôl,
A minnau ‘d wyf ond gwan;
O! cymer Iesu, fi yn dy gôl,
Yn fuan dwg fi i’r lan.
A phan fo’n curo f’enaid gwan
Elynion rif y sêr,
Dyrchafa f’ysbryd llesg i’r lan,
I fynwes bur fy Nêr.
Na bo gwrthwynebiadau’r byd,
Na chroesau o un rhyw,
Yn f’ oeri, nac yn sugno ‘mryd
Un awr oddi wrth fy Nuw.
William Williams, Pantycelyn
Y Llawlyfr Moliant Newydd: 43
PowerPoint