Seren Bethlehem
Rhyfeddod Ei ddyfod gyhoeddwyd gan hon,
Bu disgwyl amdano ganrifoedd o’r bron,
Gwireddwyd i ddoethion o’r dwyrain, y Gair
Broffwydodd y Tadau am Grist, faban Mair.
Bugeiliaid a’i canfu yng nghwmni llu’r Nef
Wrth warchod eu preiddiau uwchlaw Bethlem dref,
Arweiniodd hwy’n union at lety oedd dlawd
I syllu a synnu at Dduwdod mewn cnawd.
Goleuni y seren lewyrcha o hyd
Er gwaethaf pob Herod a ddeil yn y byd,
Gan ddatgan ei neges yn ddisglair ei threm
Mai’r ffordd at yr Iesu yw ffordd Bethlehem.
Myfi Evans © Pwyllgor Eisteddfod Fawr Aberteifi, 2015
PowerPoint