Teg wawriodd boreddydd na welwyd ei ail
Er cread y byd na thywyniad yr haul:
Bore gwaith a gofir yn gynnes ar gân,
Pan fo haul yn duo a daear ar dân.
Y testun llawenaf i’n moliant y sydd,
Fe aned in Geidwad, do, gwawriodd y dydd,
Yn Geidwad i deimlo dros frodyr dan faich,
Yn Grist i’n gwaredu, Un cadarn ei fraich.
Edrychwn o’n hamgylch, Pwy greodd y rhain,
Haul, lloer, sêr a daear sy’n gwenu mor gain?
Chwyrnasant drwy’r gwagle, yn rhwg wrth Ei air,
Ac Yntau yn pwyso ar fynwes fwyn Mair.
Y Bachgen a anwyd yn rhychwant o hyd
A Mab sydd â’i rychwant yn mesur y byd!
Yn faban bach egwan ar fronnau ei fam,
Ac eto yn cynnal y bydoedd heb nam!
Mewn gwyl fawr dragwyddol sydd eto i ddod,
Moliannwn ein Ceidwad, datganwn ei glod
Cydseiniwn ‘Hosanna’ nes atsain y nen,
Rhown iddo ogoniant a moliant. Amen.
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint