logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Teilwng

Pennill 1
Fe ddygaist Ti fy nghroes
I mi gael byw yn y rhyddid a brynaist
Rhof i Ti ‘mywyd i
A nawr am byth, canaf am dy ddaioni

Corws
Teilwng ydwyt Ti, Iesu
Ti sy’n haeddu’r mawl, Teilwng ydwyt Ti
Teilwng ydwyt Ti, Iesu
Ti sy’n haeddu’r mawl, Teilwng ydwyt Ti

Pennill 2
Fy ngwarth sydd wedi mynd
Fe safaf i yn dy gariad sy’n ddiymwad
Mae’th ras di yn parhau
A nawr am byth, canaf am dy ddaioni

Pont
O dyrchafer Di yn y nefoedd
Wrth i’th ‘sblander lenwi’r lle
Ti yn unig haedda’n mawl
Ti yw’r enw uwch bob un

Teilwng
Worthy (Stephen Furtick, Chris Brown, Mack Brock)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. Essential Music Publishing LLC)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Aled Davies,
  • June 10, 2026