Pennill 1
Yma dan dy adain, rwy’n cael gorffwys yn dy serch
(‘n) ddwfn o dan dy gysgod rwyf yn saff
Yn y mannau dirgel, (yn) cyfarfod gyda Thi
Yn dy gwmni, nid oes gennyf ofn
Rhag-Gorws
Er syrthio pawb o’m cylch
Ti’n rhoi fi ar y graig
Ti’n dal pob gwynt sydd gennyf yn dy law
Corws
O dan dy adain
Rwyt ti’n dal ynof fi
Yn y frwydr
(Fe) wnei Di ’nghynnal i
F’amddiffynnwr, fy noddfa
Ti yw fy nerth
Pennill 2
A’r t’wyllwch yn fy llethu a saethau yn y dydd
Beth bynnag sydd o ’nghwmpas rwyf yn saff
Rhag-Gorws
Er syrthio pawb o’m cylch
Ti’n rhoi fi i ar y graig
Ti’n dal pob gwynt sydd gennyf yn dy law
Corws
O dan dy adain
Rwyt ti’n dal ynof fi
Yn y frwydr
(Fe) wnei Di ’nghynnal i
F’amddiffynnwr, fy noddfa
Ti yw fy nerth
Pont (X4)
Mi wn, mi wn
Buddugoliaeth fu
Mi wn, mi wn
Buddugoliaeth fydd
Mi wn, mi wn, mi wn
Corws
O dan dy adain
Rwyt ti’n dal ynof fi
Yn y frwydr
(Fe) wnei Di ’nghynnal i
F’amddiffynnwr, fy noddfa
Ti yw fy nerth
Ti yw fy nerth
You are my strength (Bobby Smith, Jordan Watts, Spencer Roth)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2017 Johnson Ferry Worship (Gwein. Johnson Ferry Baptist Church, Inc.)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint