Pennill 1
Ti sy’n sanctaidd, Ti sy’n ffyddlon
Yn Waredwr ac yn ffrind
Ti yw popeth sydd ei angen, Ti yw
Ti yw’r ateb i bob cwestiwn
Ti yw’r rheswm dros bob dim
Ti sy’n symud
Ti yw’r Arglwydd, Ti yw
Corws 1
(O) Ti yw yr Arglwydd fry
Y ffordd, Y gwir a’r bywyd sydd
Ti yw y Gair yn gnawd
Ti yw y Seren Fore glir
Ti yw
Pennill 2
Ti’r Gogoniant haleliwia
Gobaith heddwch ar y llawr
Ti yw’r Alffa ac Omega, Ti yw
Ti sy’n gysur ac yn noddfa
Ti sy’n gariad ddaeth i’n plith
Ti sy’n hael ac yn drugarog,
Ti yw
Corws 1
Pont (X3)
Ti yw fy Mrenin a’m Duw
Ti ydyw geiriau fy nghân
Y rheswm s’gen i wneud yr offrwm hwn
Corws 2
Ti yw yr Arglwydd fry
Y ffordd, Y gwir a’r bywyd sydd
Ti yw y Gair yn gnawd
Ti yw y Seren Fore glir
Ti yw y Gair yn gnawd
Ti yw y Seren Fore glir
Ti yw
Ti Yw
You Are (Mark Roach)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© ac yn y cyfieithiad hwn 2005 Curb Dayspring Music (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y DU/Eire gan Song Solutions www.songsolutions.org)) Gweddill heb gysylltiad. Defnyddir trwy ganiatâd.
CCLI #7274132
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint