Trwy d’Ysbryd heddiw awn
i’th dŷ â moliant llawn,
O Dad pob dawn, clodforwn di:
daioni fel y môr
sy’n llifo at bob dôr,
o ras ein Iôr, i’n heisiau ni.
Dy holl weithredoedd rydd
eu cân i Dduw bob dydd
a moliant sydd ym mhyrth dy saint;
trugaredd yn dy dŷ
yn well na’r bywyd sy,
daw oddi fry yn fythol fraint.
GWILI, 1872-1936
(Caneuon Ffydd 32)