Tydi a wyddost, Iesu mawr,
am nos ein dyddiau ni;
hiraethwn am yr hyfryd wawr
a dardd o’th gariad di.
Er disgwyl am dangnefedd gwir
i lywodraethu’r byd,
dan arswyd rhyfel mae ein tir
a ninnau’n gaeth o hyd.
Ein pechod, megis dirgel bla,
sy’n difa’n dawn i fyw;
ond gelli di, y Meddyg da,
iacháu eneidiau gwyw.
Goleua di ein tywyll stad,
llefara air dy hedd
wrth fyd a roes it bob sarhad,
ac atal hynt y cledd.
Er mwyn yr ing a’r gwaedlyd chwys
a’th fywyd wedi’r groes,
O tyrd i’n hachub, tyrd ar frys
cyn dyfod diwedd oes.
JOHN ROBERTS, 1910-84 © Judith M. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 810)
PowerPoint