Wrth gofio’r Jeriwsalem fry,
Y ddinas, preswylfa fy Nuw,
Y saint a’r angylion y sy
Yn canu caniadau bob rhyw;
Yn honno mae ‘nhrysor i gyd,
Cyfeillion a brodyr o’r bron,
Hiraetha fy nghalon o hyd
An fyned yn fuan i hon.
Er gofid a blinder o hyd,
A rhwystrau bob munud o’r awr,
Gelynion echryslon i gyd
Sy’n curo fy ysbryd i lawr;
Fy enaid lluddedig a ddaw
Drwy stormydd, drwy donnau, drwy dân,
Er gwaethaf pob dychryn a braw,
I’w gartref tragwyddol yn lân.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 667)