Pennill 1
Pan mae’th lwybr o ‘mlaen
Yn fy mhoeni yn fawr
Ac rwy’n ysu cael ffoi a throi ‘nôl
Yn fy Iesu rwy’n dal
Wrth wynebu bob cam
Bydd yr Arglwydd yn rhoi im Ei hedd
Corws 1
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hedd
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hedd
Os mai aros bydd rhaid yn y dyffryn am nawr
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hedd
Pennill 2
Pan mae’r ffordd wrth fy nhraed
Yn fy llenwi ag ofn
A s’dim diwedd i’r galar a’r gwae
Yn fy Iesu rwy’n dal
Bydd yn gwmni i mi
Bydd yr Arglwydd yn rhoi im Ei nerth
Corws 2
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei nerth
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei nerth
Os mai aros bydd rhaid yn y dyffryn am nawr
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei nerth
Pennill 3
Ar y ffordd o dy flaen
O dan bwysau y groes
Fe ysgwyddaist fy ngalar a’m poen
Ynot Ti rwyf yn dal
Rwyt yn adfer pob dim
O fy Iôr, do, fe roddaist dy hun
Corws 3
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hun
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hun
Os mai aros bydd rhaid yn y dyffryn am nawr
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hun
Corws 4
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hun
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hun
Os mai aros bydd rhaid yn y dyffryn am nawr
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hun
Mola’r Iôr, y mae’n rhoi im Ei hun
Yn y Dyffryn (Mola’r Iôr)
In the Valley (Bless the Lord) (Jonny Robinson, Rich Thompson a Tim Challies)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2022 CityAlight Music (APRA) (adm at IntegratedRights.com) (Gwein. Integrity Music Ltd)
Challies Communications
Defnyddir trwy ganiatâd.
CCLI # 7257184
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint