Agorodd ddrws i’r caethion
i ddod o’r cystudd mawr;
â’i werthfawr waed fe dalodd
eu dyled oll i lawr:
nid oes dim damnedigaeth
i neb o’r duwiol had;
fe gân y gwaredigion
am rinwedd mawr ei waed.
Wel dyma Un sy’n maddau
pechodau rif y gwlith;
‘does mesur ar ei gariad
na therfyn iddo byth;
mae’n ‘mofyn lle i dosturio,
mae’n hoffi trugarhau:
trugaredd i’r amddifaid
sydd ynddo i barhau.
Teilwng yw’r Oen a laddwyd
o’r holl ogoniant mawr
drwy ganol nef y nefoedd
ac yma ar y llawr;
pan elo’r holl greadigaeth
yn ulw gan y tân,
teilyngdod Iesu drosof
fydd fy nhragwyddol gân.
MORGAN RHYS, 1716-79
(Caneuon Ffydd 511)
PowerPoint