Am ffydd, nefol Dad, y deisyfwn,
i’n cynnal ym mrwydrau y byd;
os ffydd yn dy arfaeth a feddwn,
diflanna’n hamheuon i gyd;
o gastell ein ffydd fe rodiwn yn rhydd
ac ar ein gelynion enillwn y dydd.
Am obaith, O Arglwydd, erfyniwn,
i fentro heb weled ymlaen;
os gobaith dy air a dderbyniwn,
daw’r engyl i dreiglo y maen;
o loches dy law cawn syllu’n ddi-fraw
a chanfod daioni ym mhopeth a ddaw.
Am gariad, O Dduw, y gweddïwn,
gogoniant pob rhinwedd a dawn,
er gwybod, os cariad a fynnwn,
mai gwynfyd drwy ddagrau a gawn;
ein cysur drwy’n hoes mewn cystudd a loes
fydd cofio’r Gwaredwr a choncwest ei groes.
GWILYM R. TILSLEY, 1911-97 © Gareth M. Tilsley
(Caneuon Ffydd: 792)
PowerPoint