Arglwydd, maddau in mor dlodaidd
fu ein diolch am bob rhodd
ddaeth o’th ddwylo hael i’n cynnal
fel dy bobol wrth dy fodd:
yn dy fyd rhown ynghyd
ddiolch drwy ein gwaith i gyd.
Arglwydd, maddau’n difaterwch
at ddiodde’r gwledydd draw
lle mae’r wybren glir yn felltith
a’r dyheu am fendith glaw:
lle bo loes boed i’n hoes
adlewyrchu golau’r groes.
Arglwydd, maddau in anghofio’n
dyled i holl dlodion byd,
ni, sy’n dathlu aberth Iesu,
ni, a brynwyd ganddo’n ddrud;
rhown yn rhad heb nacâd
fel y cawsom gan ein Tad.
Wedi’r maddau, nertha’n camau
wrth gydgerdded tua’r wlad
lle na bydd wylofain mwyach
nac annhegwch, trais na brad:
‘mlaen mewn ffydd tua’r dydd
diolch yn dragwyddol fydd.
SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)
(Caneuon Ffydd 828)
PowerPoint