Boed mawl i Dduw gan engyl nef
a chlod gan ddynion fyrdd;
mor rhyfedd yw ei gariad ef,
mor gyfiawn yw ei ffyrdd.
Mor ddoeth yw cariad Duw at ddyn
sydd wan dan faich ei fai:
yn ddyn mewn cnawd daeth Duw ei hun
i’w nerthu a’i lanhau.
O’i gariad doeth, ein Duw mewn cnawd
trychineb Adda droes
yn fuddugoliaeth Adda’r Ail
drwy ymdrech eitha’r groes.
O gariad mawr: mewn dyn, dros ddyn
am hedd eiriolai Duw;
mewn marwol loes bu ef ei hun
er mwyn i ddyn gael byw.
Yn ing yr ardd, ym marw’r groes,
dioddefodd Duw dros ddyn,
gan ddysgu dyn y ffordd i fyw
drwy farw iddo’i hun.
Boed mawl i’n Duw gan engyl nef
a chlod gan ddynion fyrdd;
mor dyner yw ei gariad ef,
mor sanctaidd yw ei ffyrdd.
J. H. NEWMAN, 1801-90 (Praise to the holiest in the height) cyf. HAWEN, 1845-1923 diw. SIÔN ALED
(Caneuon Ffydd 491)
PowerPoint