Codwch eich pen fry i’n Brenin mawr,
Plygwch, molwch, cenwch iddo nawr
I’w fawrhydi Ef, boed eich clod yn llawn,
Pur a sanctaidd, rhowch ogoniant
Nawr i Frenin nef.
(fersiwn i’r plant:)
Codwn ni ein llef, ffrindiau Brenin Nef.
Dewch, ymunwch, cyd-addolwn Ef.
Canwn, yn un côr, glod i’n Harglwydd Iôr;
Mawl fo iddo, gweithiwn drosto,
Iesu, Frenin nef.
Lift up your heads, Steven L Fry. Cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun a Nest Ifans
© 1974 Birdwing Music/Cherry Lane (adran o Word Music (UK)) Gwein. gan Copycare
(Grym Mawl 1: 100)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.