Cof am y cyfiawn Iesu,
y Person mwyaf hardd,
ar noswaith drom anesmwyth
bu’n chwysu yn yr ardd,
a’i chwys yn ddafnau cochion
yn syrthio ar y llawr:
bydd canu am ei gariad
i dragwyddoldeb mawr.
Cof am y llu o filwyr
â’u gwayw-ffyn yn dod
i ddal yr Oen diniwed
na wnaethai gam erioed;
gwrandewch y geiriau ddwedodd –
pwy allsai ond efe?
“Gadewch i’r rhain fynd ymaith,
cymerwch fi’n eu lle.”
Cof am yr ŵyneb siriol
y poerwyd arno’n wir;
cof am y cefen gwerthfawr
lle’r arddwyd cwysau hir;
O annwyl Arglwydd Iesu,
boed grym dy gariad pur
yn torri ‘nghalon galed
wrth gofio am dy gur.
WILLIAM LEWIS, m. 1794
(Caneuon Ffydd 500)
PowerPoint