logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Aed grym Efengyl Crist

Aed grym Efengyl Crist yn nerthol drwy bob gwlad, sain felys i bob clust fo iachawdwriaeth rad: O cyfod, Haul Cyfiawnder mawr, disgleiria’n lân dros ddaear lawr. Disgleiried dwyfol ras dros holl derfynau’r byd, diflanned pechod cas drwy gyrrau hwn i gyd: cyduned pob creadur byw ar nefol dôn i foli Duw. WILLIAM LEWIS, m.1794 […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Cof am y cyfiawn Iesu

Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd, ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd, a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr: bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr â’u gwayw-ffyn yn dod i ddal yr Oen diniwed na wnaethai gam erioed; […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Y mae trysorau gras

Y mae trysorau gras yn llifo fel y môr, mae yn fy annwyl Frawd ryw gyfoeth mawr yn stôr: ymlaen yr af er dued wyf, mae digon yn ei farwol glwyf. Ni chollodd neb mo’r dydd a fentrodd arno ef, mae’n gwrando cwyn y gwan o ganol nef y nef: ac am fod Iesu’n eiriol […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015