logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dacw gariad nefoedd wen

Dacw gariad nefoedd wen
Yn disgleirio ar y pren;
Dacw daledigaeth lawn
I ofynion trymion iawn;
Iesu gollodd ddwyfol waed,
Minnau gafodd wir iachâd.

Na ddoed gwael wrthrychau’r byd
I gartrefu yn fy mryd;
Digon f’enaid, digon yw
Myfyrdodau dwyfol friw;
Mae mwy pleser yn ei glwy’
Na’u llawenydd pennaf hwy.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 409)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015