logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Daeth ffrydiau melys iawn

Daeth ffrydiau melys iawn
yn llawn fel lli
o ffrwyth yr arfaeth fawr
yn awr i ni;
hen iachawdwriaeth glir
aeth dros y crindir cras;
bendithion amod hedd:
O ryfedd ras!

Cymerodd Iesu pur
ein natur ni,
enillodd ef i’w saint
bob braint a bri;
fe ddaeth o’r nef o’i fodd,
cymerodd agwedd was;
ffrwyth y cyfamod hedd:
O ryfedd ras!

Yn rawnwin ar y groes
fe droes y drain,
caed balm o archoll ddofn
y bicell fain:
dechreuwn fawl cyn hir
na flinir ar ei flas
am Iesu’r aberth hedd:
O ryfedd ras!

PEDR FARDD, 1775-1845

(Caneuon Ffydd 524)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015