Derbyn fy niolch gwir am fy achub i;
Rhof fi fy hun yn llwyr i foli d’enw di.
Tywelltaist ti dy waed i’m puro i;
Fy mhechod i, a’m gwarth,
a roddwyd arnat ti.
F’Arglwydd a’m Duw,
F’Arglwydd a’m Duw!
Dy wirionedd di a’m gwnaeth yn rhydd;
Caf weld dy wedd ryw ddydd.
Gras a thrugaredd rhad,
maddeuant am bob bai;
Ti yw fy ngobaith i –
dy gariad sy’n ddi-drai.
(Ein) Harglwydd a’n Duw wyt ti,
deled dy deyrnas di!
Gwneler d’ewyllys bur, yn fy mywyd i.
F’Arglwydd a’m Duw,
F’Arglwydd a’m Duw!
Dy wirionedd di a’m gwnaeth yn rhydd;
Caf weld dy wedd ryw ddydd.
Derbyn fy niolch i gwir am fy achub i.
Martin Smith: Thank you for saving me, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1993 Curious? Music UK. / Gwein. Gan Delirious? Ltd
(Grym Mawl 2: 125)
PowerPoint