Dwi eisiau ymgolli yn llwyr yn dy serch,
Teimlo dy freichiau’n gryf o’m cwmpas;
‘Nghynnal gan gariad fy Nhad,
Saff yn dy fynwes di.
Dysgu dy ddilyn Di,
Ymddiried ynot Ti;
C’nesa fy nghalon i,
Tyrd, cofleidia fi.
Cysur a geisiais i
Wrth ddilyn pethau’r byd;
Nertha f’ewyllys wan,
Fe’i rhof hi i Ti.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Timothy
I want to be out of my depth in your love, Doug Horley a Noel Richards
© 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 62)
PowerPoint