logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ef yw yr Iôr

Ef yw yr Iôr, teyrnasa’n y nef;
Ef yw yr Iôr.
Fe greodd mewn t’wyllwch oleuni â’i lef;
Ef yw yr Iôr.
Pwy sy’n debyg i hwn –
r’Hen Ddihenydd yw Ef;
Ef yw yr Iôr.
Daw atom, ei bobl, yn nerthol o’r nef;
Ef yw yr Iôr.

Anfon d’allu, O Dduw ein Iôr;
Anfon d’allu, O Dduw ein Iôr, ein Iôr.

D’efengyl, O Dduw, i’n pobl sy’n obaith;
Ti yw yr Iôr.
Dyma allu ein Duw, ein hiachawdwriaeth;
Ti yw yr Iôr.
Ni cheisiwn ni gyfoeth ond cyfoeth y groes;
Ti yw yr Iôr.
A’n gwobr fydd ennill colledig ein hoes.
Ti yw yr Iôr.

He is the Lord, Kevin Prosch; cyfieithiad awdurdodedig: Casi Jones
© 1991 Mercy/Vineyard publishing. Gweinyddir gan CopyCare

(Grym Mawl 2: 41)

PowerPoint
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970