logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fy Iesu yw fy Nuw

Fy Iesu yw fy Nuw,
Fy Mrawd a’m Prynwr yw,
Ffyddlonaf gwir;
Arwain fy enaid wnaeth
O’r gwledydd tywyll caeth,
I wlad o fêl a llaeth,
Paradwys bur.

Efe a aeth o’m blaen,
Trwy ddyfnder dŵr a thân,
I’r hyfryd wlad;
Mae’n eiriol yno’n awr
O flaen yr orsedd fawr,
Yn maddau bach a mawr
O’m beiau’n rhad.

Mae lluoedd maith y nef
Yn plygu iddo Ef,
Anfeidrol Dduw;
Canu telynau clir
Mewn gŵyl dragwyddol bur,
Am waredigaeth wir
I ddynol-ryw.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint